Datganiad ar Gyhoeddi Adroddiad IICSA

CBCEW » Safeguarding » IICSA » » Datganiad ar Gyhoeddi Adroddiad IIC...

Mae’r Eglwys Gatholig yn Lloegr a Chymru yn croesawu Adroddiad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA) parthed ymateb gyfundrefol yr Eglwys yn ei dyletswydd gofal i amddiffyn plant rhag eu cam-drin yn rhywiol a’u camfanteisio’n rhywiol.

Diolchwn panel yr IICSA am eu gwaith. Bydd yr Adroddiad yn llywio nawr y gwaith i ddiwygio a gwella diogelu ym mhob agwedd ar fywyd yr Eglwys.

Agwedd bwysig ar waith yr Ymchwiliad oedd y llais a roddwyd i ddioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth, gan gynnwys yr adroddiadau a roesant am eu hymdrechion â’r Eglwys ar ôl hyn. Mae gwrando’n astud ar eu tystiolaeth wedi dangos yn eglur raddau’r difrod y mae’r cam-drin rhywiol hwn wedi’i gael ar eu bywydau.

Ymddiheurwn i’r holl ddioddefwyr a goroeswyr na chawsant iawn wrandawiad, neu na chefnogwyd yn weddus gennym ni. Trwy wrando gyda gostyngeiddrwydd ar y rhai sydd wedi dioddef, medrwn gyfrannu at iachâu clwyfau cam-drin, yn ogystal â dysgu oddi wrth y rhai yr effeithir arnynt fwyaf uniongyrchol sut y mae’n rhaid i ni wella safonau, polisïau a gweithdrefnau diogelu’r Eglwys.

Mae hon yn dasg barhaus ac yn un yr ydym wedi ymrwymo’n llwyr iddi. Mae cam-drin plant yn rhywiol yn drosedd. Mae’n drosedd sy’n gofyn am wyliadwriaeth ymroddedig a threfniadau llym i sicrhau adrodd i’r awdurdodau statudol. Dyma yw bolisi’r Eglwys. Dyma hefyd pam mae angen adolygu a gwella ein gwaith diogelu’n ddi-baid. Lle bu methiannau ac anghysondeb wrth gymhwyso ein gweithdrefnau diogelu, rydym yn eu cydnabod nhw ac yn ymrwymo i weithrediadau a fydd yn arwain at welliant.

Mae cam-drin yn weithred ddrygionus yn erbyn y rhai mwyaf agored i niwed; rhaid peidio byth ei esgusodi na’i gorchuddio. Ni ellir dadwneud cam-drin a gyflawnir yn erbyn plant a’r difrod canlyniadol ar fywydau pobl. Am hyn, ymddiheurwn yn ddiamod, ac rydym yn ymrwymo ein hunain i wrando’n astud ar leisiau’r rhai sydd wedi’u cam-drin.

Mae’r adroddiad hwn yn adeg bwysig yn ein taith ddiogelu yn Eglwys Gatholig ein gwledydd. Bellach bydd yn cael ei ystyried yn fanwl gennym ni, yr Esgobion, yn ein Cynulliad Llawn sy’n dechrau’r wythnos nesaf er mwyn i ni archwilio sut i gyfuno darganfyddiadau’r Ymchwiliad pwysig hwn i fywyd a gwaith yr Eglwys er mwyn diogelu plant a’r rhai sy’n agored i niwed yn gyson.

Vincent Y Cardinal Nichols
Llywydd

Yr Archesgob Malcolm McMahon OP
Is-Lywydd

IICSA Report in Welsh

You can read the report in Welsh on IICSA’s site.

English

You can read this statement in English too.