Ysgrif goffa Benedict XVI – Cymraeg

Vatican » Pope » Pope Benedict XVI » » Ysgrif goffa Benedict XVI – C...

Bu Bened XVI yn Bab am lai nag wyth mlynedd – 19 Ebrill 2005 i 28 Chwefror 2013 – ond daeth yn fwy adnabyddus ym Mhrydain ar ôl iddo ymweld â’r wlad, yn 2010 – yr ail Bab mewn hanes i wneud hyn. Gwelwyd yr ymweliad cyntaf o’i bath yn 1982 pan ymwelodd y Pab Ioan Pawl II a Chymru, Lloegr a’r Alban.

Roedd digon o ragfynegiadau tywyll ynghylch ymweliad y Pab Bened: disgwylid gwrthdystiadau angharedig ac roedd amddiffynwyr anffyddiaeth newydd yn atgyfodi’r llysenw sef ‘rottweiler Duw’. Ond, cafodd groeso cynnes gan Y Frenhines yng Nghaeredin ac fe’i cymeradwywyd gan y torfeydd.

Daeth y trobwynt, a seliodd yr ymweliad fel llwyddiant cenedlaethol, ar yr ail ddiwrnod: anerchiad y Pab i gynrychiolwyr y gymdeithas, yn cynnwys seneddwyr, a hynny o dan drawstiau hynafol Neuadd San Steffan. Siaradodd am ‘ran gyfreithlon crefydd yn y sgwâr cyhoeddus’, a gwrandawyd arno. Pwysodd ar y syniad ‘y gall yr Eglwys a’r awdurdodau cyhoeddus gydweithio er lles dinasyddion,’ a chafodd ei gymeradwyo gan David Cameron, y Prif Weinidog, a’i ragflaenwyr, Gordon Brown, Tony Blair, John Major, a Margaret Thatcher. Derbyniodd y Pab gymeradwyaeth hynod a chododd y gynulleidfa ar eu traed wrth iddo gerdded i lawr hyd eithaf y neuadd.

Yn ganolog i ymweliad y Pab oedd cyhoeddi bod y diwinydd mawr Seisnig o’r 19 ganrif, sef y Cardinal John Henry Newman, bellach yn Fendigaid. Safodd tua 55,000 o bobl am oriau ar gae glaswelltog yn Cofton Park, Birmingham, mewn glaw mân ysbeidiol, yn yr Offeren Gwynfydoli. Canwyd emyn enwog Newman sef Praise to the Holiest in the Height, a chafwyd y gosodiad gerddorol i’r litwrgi hwn gan James MacMillan. Yn ei homili, soniodd y Pab fod y diwrnod hwn yn digwydd bod yn 70fed pen-blwydd Brwydr Prydain. ‘I mi, fel un a fu’n byw ac yn dioddef trwy ddyddiau tywyll y gyfundrefn Natsïaidd yn yr Almaen, mae’n wefreiddiol bod yma gyda chi ar yr achlysur hwn, a dwyn i gof faint o’ch cyd-ddinasyddion a aberthodd eu bywydau, gan wrthsefyll yn gadarn lluoedd yr ideoleg ddrwg honno.’

O ran Newman, nododd y Pab ei ‘ysgolheictod addfwyn, doethineb dynol dwfn, a chariad dwys at yr Arglwydd’. Fel y cofiodd, yn 1990, cael ei ysbrydoli fel seminarydd yn Freising ar ôl y Rhyfel, gan ddysgeidiaeth Newman ar gydwybod.

Tarodd un manylyn arall o’r ymweliad hwnnw lawer o wylwyr teledu: yr wylnos o weddi gyda’r hwyr y noson cyn y Gwynfydoliad, a fynychwyd gan y Pab yn Hyde Park. Nid yr hyn a ddywedwyd, ond gweld 80,000 o bobl yn dawel am beth amser wrth iddynt weddïo o flaen y Sagrafen Fendigaid mewn man cyhoeddus.

Gorffwysedd mewn hedd, amen.